Negyddol Arfaethedig Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

07 Ionawr 2019

pN(5)001 – Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Gweithdrefn: negyddol arfaethedig

Mae’r offeryn hwn yn dileu cyfeiriadau at Aelodau o Senedd Ewrop, Senedd Ewrop ac Etholiadau i Senedd Ewrop na fyddant eu hangen wedi’r dyddiad ymadael.  Ni wneir unrhyw ddarpariaeth yn eu lle.

Gosodwyd y Rheoliadau hyn at ddibenion dadansoddi o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion y sifft wedi’u bodloni: Ni nodwyd

 

pN(5)002 - Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Gweithdrefn: negyddol arfaethedig

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 ('Rheoliadau 2009') er mwyn mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol a diffygion eraill sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Rheoliadau 2009 yn gweithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol.

Gosodwyd y Rheoliadau hyn at ddibenion dadansoddi o dan Ddeddf yr UE (Ymadael ) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

 

Rhiant-Ddeddf:Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion y sifft wedi’u bodloni: Ni nodwyd

 

pN(5)003 – Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2018

Gweithdrefn: negyddol arfaethedig

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan bwerau a roddwyd gan adran 11 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi. Mae’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (‘Rheoliadau 2006’) er mwyn ymdrin â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol, a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd Rheoliadau 2006 yn gweithredu Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor Ewropeaidd ar 25 Mehefin 2002 yn ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol. Bydd y Rheoliadau hyn yn cynnal y gofynion domestig a osodwyd gan Reoliadau 2006, ond byddant yn dileu cyfeiriadau at y Comisiwn Ewropeaidd, a’r gofynion i adrodd iddo, yn disodli’r cyfeiriadau at "Aelod-wladwriaethau" gyda chyfeiriadau at "Weinidogion Cymru" ac yn gwneud gwelliannau mân a thechnegol eraill i Reoliadau 2006.

Gosodwyd y Rheoliadau hyn at ddibenion eu dadansoddi o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf:Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion y sifft wedi’u bodloni: Ni nodwyd